P-04-409 : Enwau Cymraeg i bob cefnffordd newydd yng Nghymru

Geiriad y ddeiseb:

Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod pob cefnffordd newydd yng Nghymru yn cael enwau Cymraeg. Nid yn unig y bydd hyn yn helpu i gadw hunaniaeth ein dinasoedd, trefi a phentrefi, ond bydd yn helpu pobl nad ydynt yn siarad Cymraeg i ddysgu ynganu a sillafu geiriau syml Cymraeg.

Cyflwynwyd y ddeiseb gan: Stuart Evans

Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor:  2 Hydref 2012

Nifer y llofnodion:. 47